URDD GOBAITH CYMRU
Telerau ac Amodau Gweithgareddau Adran Chwaraeon yr Urdd
Mae’n allweddol eich bod yn darllen, deall ac yn derbyn yr amodau canlynol cyn archebu lle ar weithgareddau Urdd Gobaith Cymru (Urdd).
Drwy gytuno, rydych yn rhoi caniatâd i'r person a enwir mynychu'r gweithgaredd, ac yn derbyn telerau ac amodau archebu Urdd Gobaith Cymru sydd ar gael o http://www.urdd.cymru/teleraugweithgareddau. Gall yr Urdd ddefnyddio lluniau a/neu fideos sydd wedi’i thynnu o’r gweithgaredd fel deunydd hyrwyddo ac ar draws fforymau cyhoeddus gan gynnwys gwefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ac o bosib yn y wasg leol neu deledu. Os nad ydych yn caniatáu tynnu lluniau o’ch plentyn/plant, gallwch gysylltu gyda’ch Swyddog Datblygu Chwaraeon lleol ar http://www.urdd.cymru/cy/chwaraeon/cysylltu/
1. EICH TAL:
Eich tal yw cyfanswm tal y gweithgaredd - a fydd yn cael ei osod yn ôl y pen. Nodir ar bob taflen beth sydd yn gynwysedig yn y pris. Rhaid derbyn taliad wrth archebu lle ar unrhyw weithgaredd ble codir swm penodol i fynychu. Wrth arwyddo'r Ffurflen Archebu rydych yn arwyddo cytundeb ac yn ymrwymo eich hun i dalu tal y weithgaredd. Mae eich cytundeb gydag Urdd Gobaith Cymru, elusen gofrestredig (rhif 524481) a chwmni cyfyngedig dan warant (rhif 263310), wedi’i gofrestru yng Nghymru, a’i swyddfa gofrestredig yw Swyddfa’r Urdd, Gwersyll Yr Urdd, Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7ST. Mae’r cytundeb yn ddarostyngedig i gyfraith y wlad ac i awdurdod neilltuedig y llysoedd. Y cyfeiriad ar gyfer pob gohebiaeth ar bob mater sy’n ymwneud a’r cytundeb hwn yw eich Swyddog Datblygu Chwaraeon lleol, ceir rhestr ar http://www.urdd.cymru/cy/chwaraeon/cysylltu/
Unwaith mae’r Ffurflen Archeb wedi’i chwblhau a’r taliad wedi’i dalu, mae’r archeb yn un gadarn, ac yn sicrhau lle ar weithgaredd yr Urdd. Os na dderbynnir taliad gyda’r Ffurflen Archeb, ni ellir sicrhau lle eich plentyn / plant ar y gweithgaredd, ac mae hawl gan yr Urdd i gynnig y lle yma allan.
2. NEWIDIADAU NEU DDIDDYMU/CANSLO AR EICH RHAN CHI :
Diddymu/Canslo Os ydych yn dymuno diddymu eich archeb rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig (post neu e-bost) Mae’r diddymiad yn dod i rym ar y dyddiad y derbyniwn eich neges, ac os dderbynnir cyn dyddiad cau'r digwyddiad, ad-dalir y taliad yn llawn. Bydd unrhyw ad-daliad ar ôl dyddiad cau'r gweithgaredd ar ddisgresiwn Urdd Gobaith Cymru. 3. NEWIDIADAU NEU DDIDDYMU / CANSLO GWEITHGAREDD AR RAN URDD
GOBAITH CYMRU
Man Newidiadau: Oherwydd natur rhai gweithgareddau, o dro i dro mae’n ofynnol arnom i wneud newidiadau bach ac yr ydym yn cadw’r hawl i wneud hynny. Ymdrechir i’ch hysbysu o’r rhain cyn gynted ag sy’n bosibl
Newidiadau Mawr: Mae newidiadau mawr yn cynnwys cwtogi hyd/leoliad y gweithgaredd. Mewn lle bo rhaid i ni wneud newid mawr cyn dyddiad cychwyn y gweithgaredd, fe’ch hysbysu’r cyn gynted ag sy’n bosibl a rhai i chi: 1) derbyn y trefniadau diwygiedig; 2) canslo’r gweithgaredd a derbyn ad-daliad llawn. Os oes rhaid i ni wneud newid mawr unwaith mae’r gweithgaredd wedi cychwyn, ni ellir canslo os gallwn gynnig trefniadau eraill addas
4. LLEIAFSWM NIFEROEDD:
Rydym yn cadw’r hawl i ganslo / gohirio gweithgaredd. Os digwyddir hynny, ymdrechir i roi o oleuaf wythnos o rybudd mewn ysgrifen cyn dyddiad cychwyn y gweithgaredd. Byddwn yn trefnu ad-daliad llawn yn yr amgylchiadau yma.
5. FORCE MAJOURE
: Ni fydd gorfodaeth i ni dalu ad-daliad, os y bydd rhaid i ni ganslo neu newid unrhyw agwedd o’r gweithgaredd oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth, lle na bydden ni, na’n cyflenwyr, wedi medru yn rhesymol rhagweld na rhwystro. Mae amgylchiadau o’r fath yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i ryfel neu fygythiad o ryfel, gweithgaredd terfysgol, terfysgoedd neu anhrefn sifil, anghydfodau diwydiannol, trychinebau naturiol neu niwclear, tân, tywydd drwg, cau meysydd awyr, porthladdoedd neu orsafoedd, canslo neu newid amserlenni cludwyr awyr, i'r neu’r môr
6. IECHYD:
Rhaid i bawb ddatgan unrhyw anafiadau neu afiechydon difrifol ddiweddar. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros anhwylder neu waethygu anhwylder a dioddefwyd yn ystod neu ar ôl y gweithgaredd os na ddatgelwyd anafiadau neu afiechyd ymlaen llaw. Ni all neb sydd wedi bod mewn cysylltiad gydag afiechyd heintus ymgymryd gweithgareddau Urdd Gobaith Cymru oddi fewn i’r cyfnod cwarantîn arferol. Wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd, rhaid i bawb gydymffurfio gyda’n rheolau diogelwch a disgyblaeth. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb dros eich diogelwch os ydych yn fwriadol yn torri'r rheolau hyn, a chanlyniad posibl ymddygiad o’r fath yw eich anfon adre (gweler Ymddygiad isod). Dylid cyfeirio pob ymholiad penodol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch i’r Cyfarwyddwr perthnasol.
7. YMDDYGIAD:
Mae’n ofynnol i’r archebwr ar adeg archebu, ddatgelu yn llawn I Urdd Gobaith Cymru ac i’w gadarnhau yn ysgrifenedig, unrhyw afiechyd, anabledd, problemau cymdeithasol neu ymddygiadol sgan yr aelod neu gyflwr sydd newydd ymddangos, a all effeithio ar yr aelod neu aelodau eraill yn ystod y gweithgaredd. Cedwir yr hawl o wahardd unrhyw aelod cyn neu ar ôl cychwyn y gweithgaredd os nad ydym wedi derbyn yr wybodaeth gyflawn yn ôl barn y Swyddog neu os yw ei ymddygiad yn anghydnaws o gymharu â’r aelodau eraill. Os bydd hyn y digwydd, bydd yr archebwr yn gyfrifol am unrhyw gostau ychwanegol a godir neu geisiadau drydydd parti, ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal.
8. TAFLENNI
Mae unrhyw brisiau, datganiadau, disgrifiadau, darluniau, ffotofraffu, lluniau, neu unrhyw faterion eraill mewn unrhyw lenyddiaeth wedi’u gwneud mewn ysbryd o ewyllys da, ond nid oes gwarant eu bod yn fanwl gywir a’r bwriad yw creu darlun cyffredinol i gynrychioli ein nwyddau a gwasanaethau ac nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o’r cytundeb rhyngom. Cedwir yr hawl i ddiwygio ein nwyddau a gwasanaethau o dro i dro fel nad yw’r disgrifiadau a osodwyd yn ein taflennu neu lenyddiaeth arall yn union debyg i’r hyn a osodwyd yn cynnig i chi.
9. CWYNION
Byddwn yn ceisio datrys problemau cyn gynted ag y tynnir ein sylw atynt. Os ydych eisiau cwyno yn ystod y gweithgaredd, cysylltwch â’r Swyddog perthnasol os gwelwch yn dda. Os na ellir datrys y broblem yn foddhaol, cysylltwch â’r cyfarwyddwr trwy lythyr o fewn 28 diwrnod o ddiwedd y gweithgaredd gan osod manylion llawn y gwyn. Byddwn yn ymateb o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich llythyr.
10. CANIATÂD RHIANT / GWARCHODWR:
Os oes aelod o dan 18 oed ar ein gweithgaredd wrth archebu lle ar ein gweithgaredd, rhaid i riant neu warchodwr arwyddo’r Tystysgrifau Iechyd gan nodi eu bod wedi’u darllen, deall a derbyn yr Amodau a Thelerau ac wedi rhoi eu caniatâd i’r person ifanc fynychu a chymryd rhan yn y gweithgaredd.
11. ATEBOLRWYDD
: Derbynnir atebolrwydd dros faterion sy’n codi o ganlyniad uniongyrchol i esgeulustod a neu dorri cytundeb o’n dyletswydd gytundebol i sicrhau gofal wrth wneud y trefniadau gan gynnwys unrhyw weithredoedd gan ein gweithwyr neu asiantau. Yng nghyd-destun cludian awyr, môr neu reiffordd a’r ddarpariaeth llety, bydd ein ht ebolrwydd ym mhob achos wedi’i gyfyngu yn unol a’r confensiynau rhyngwladol perthnasol. Bydd cludiant gyda chludwr penodol yn dod o dan amodau cludiant y cludwr hwnnw, a fydd yn cyfyngu neu yn ymwrthod atebolrwydd. Cymerir penderfyniadau gweithredol gan gludwyr awyr a meysydd awyr / porthladdoedd rheilffyrdd sy’n golygu oedi, dargyfeiriadau neu ail drefnu. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros benderfyniadau o’r fath ac felly ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt.